Jane Ashman Logo

Grŵp A

Cyflwyniad i'r Cwrs

Mae ymarferwyr Grŵp A i gyd yn staff sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn sefydliad neu asiantaeth sector cyhoeddus neu wirfoddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • y rhai mewn lleoliadau sector preifat
  • gwirfoddolwyr
  • aelodau etholedig awdurdodau lleol.

Y cymhwysedd ar gyfer y grŵp hwn yw i bob ymarferwr a gwirfoddolwr:

  • feddu ar ddealltwriaeth am ddiogelu
  • wybod beth sydd angen iddyn nhw, ac eraill, ei wneud
  • wybod eu cyfrifoldeb i rannu pryderon am niwed, cam-drin neu esgeulustod gwirioneddol neu bosibl.

Dylid cwblhau hyfforddiant Grŵp A cyn hyfforddiant ar gyfer y grwpiau eraill, oni bai bod cynnwys llawn hyfforddiant grŵp A wedi’i gynnwys yn yr hyfforddiant a ddarperir mewn ffyrdd eraill. Egwyddorion cofiadwy

  • Rydw i’n gwybod beth mae'r term diogelu yn ei olygu.
  • Rydw i’n gwybod beth i gadw llygad amdano.
  • Rydw i’n gwybod pwy i’w hysbysu.

Yn ôl y safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu cenedlaethol, dylai pobl yng ngrŵp A wybod:

  • sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • am y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • sut i hysbysu, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu.

Canlyniadau dysgu Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu, fe fyddan nhw’n:

  • gallu esbonio'r term 'diogelu'
  • adnabod camdriniaeth, neu risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod bod ganddynt ddyletswydd i hysbysu am gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud os ydynt yn dyst i neu’n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod neu os bydd rhywun yn dweud wrth yr ymarferydd eu bod yn cael eu cam-drin.
Dechrau'r Cwrs

Cynnwys y Cwrs

Template File: single-ir_course.php