Jane Ashman Logo

Level of Need – 6. Dangosyddion Angen

Dangosyddion Gwyrdd

Anghenion Datblygiadol

  • Cyflawni’r cyfnodau allweddol
  • Presesnoldeb da yn yr ysgol / coleg / hyfforddiant
  • Dim rhwystrau i ddysgu
  • Dilyniant wedi’i gynllunio y tu hwnt i’r oed ysgol statudol
  • Staff yr ysgol a’r amgylchedd â chyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol o niwed y tu allan i’r teulu
  • Mae gwybodaeth ar gael er mwyn i bobl ifanc wybod pwy all eu helpu gydag unrhyw bryderon
  • Iechyd corfforol da a cherrig milltir datblygiadol sy’n briodol i’w hoedran yn cynnwys lleferydd a iaith
  • Mae gan y Person Ifanc fynediad i gyngor a gwybodaeth sy’n darparu gwybodaeth am effeithiau camdrin sylweddau
  • Mae gan y Person Ifanc fynediad i gyngor a gwybodaeth sy’n darparu gwybodaeth a dealltwriaeth dda o iechyd rhywiol a’r defnydd rheolaidd o ddulliau atal cenhedlu os ydynt yn actif yn rhywiol 
  • Iechyd meddwl da a llesiant seicolegol da
  • Ymlyniadau cynnar o ansawdd da, yn hyderus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
  • Gyda’r wybodaeth gywir a mynediad i wasanaethau cynghori sy’n hyrwyddo rhyw a pherthynasau diogel
  • Mae gan y Person Ifanc fynediad i wybodaeth a chyngor yn ymwneud â sgiliau diogelwch digidol
  • Teuluoedd sefydlog ble mae’r rhiant / rhieni / gofalwr / gofalwyr yn gallu diwallu anghenion y plentyn
  • Yn rhan o gymuned, grŵp cyfoedion neu deulu sydd ag ymagweddau cymdeithasol cadarnhaol
  • Mae gan y Person Ifanc fynediad i wybodaeth a chyngor sy’n hyrwyddo sgiliau byw’n annibynnol priodol.

Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol

  • Perthynasau teuluol cefnogol 
  • Y plentyn yn cael ei gefnogi’n llawn yn ariannol
  • Llety o ansawdd da a sefydlog
  • Rhwydweithiau cymdeithasol a chyfeillion da yn bodoli
  • Amgylchedd diogel a sicr
  • Cyd-destunau diogel i dreulio amser ble mae gofalwyr positif a phrosesau diogelu yn eu lle
  • Mynediad i weithgareddau cyson a phositif
  • Rhieni’n gallu darparu’r gofal ar gyfer anghenion y plentyn
  • Rhieni â dealltwriaeth o grŵp cyfoedion plentyn neu berson ifanc a’r ardal maent yn ei mynychu
  • Rhieni â mynediad i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i hyrwyddo diogelwch digidol o fewn y cartref
  • Rhieni’n darparu magwraeth diogel a gofalgar
  • Rhieni’n darparu arweiniad a ffiniau priodol i helpu’r plentyn i ddatblygu gwerthoedd addas
Dangosyddion Melyn

Anghenion Datblygiadol

  • Triwantiaeth neu ddiffyg presenoldeb achlysurol
  • Anawsterau iaith a chyfathrebu wedi’u hadnabod
  • Llai o fynediad i lyfrau, tegannau neu ddeunyddiau addysgiadol
  • Ychydig neu ddim cymwysterau
  • NEET
  • Yn araf yn cyrraedd cerrig milltir datblygiadol
  • Yn methu imiwneiddiadau neu wiriadau
  • Mân-broblemau iechyd a ellir eu cynnal mewn ysgol prif lif
  • Gwrthod / osgoi cofrestru gyda gwasanaethau gofal iechyd (e.e. bydwraig, ymwelydd iechyd) yn cynnwys trefnu apwyntiadau amserol ar    gyfer beichiogrwydd (16 wythnos) ac wedi beichiogrwydd
  • Materion iechyd meddwl neu emosiynol lefel isel sydd angen ymyrraeth
  • Ymddygiad ac agweddau cadarnhaol tuag at droseddu
  • Dod i sylw’r heddlu o ganlyniad i droseddu ar lefel isel
  • Camddefnydd sylweddau ar lefel isel (yn bresennol neu’n hanesyddol)
  • Hunan barch isel
  • Dangos arwyddion o’r camau cyntaf o feithrin perthynas amhriodol tuag at safbwyntiau eithafol
  • Person ifanc yn aml yn cyrraedd adref yn hwyr wedi cyrffyw
  • Yn feichiog yn 16 mlwydd oed neu is
  • Diffyg ymddygiad sy’n briodol i’w hoedran a sgiliau byw’n annibynnol sy’n eu gwneud yn fwy agored i niwed

Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol

  • Mae gan y rhieni / gofalwyr anawsterau yn eu perthynas a allai effeithio ar y plentyn
  • Rhieni’n gofyn am gyngor i reoli ymddygiad eu plentyn
  • Plant yn cael eu heffeithio gan berthynasau teuluol anodd neu fwlio
  • Gor-boblogaeth
  • Teuluoedd yn cael eu heffeithio gan incwm isel, dyled neu ddiweithdra
  • Cyfleusterau annigonol i ddiwallu anghenion e.e. materion cludiant neu fynediad
  • Y teulu angen cyngor yn ymwneud â’u cau allan yn gymdeithasol / gwahaniaethu / troseddau casineb
  • Yn cymysgu gyda chyfoedion sy’n weithredol yn wrthgymdeithasol neu’n droseddol
  • Cyfyngder mynediad i gyngor, gwybodaeth a gwasanaethau atal cenhedlu a iechyd rhywiol
  • Treulio amser mewn lle ble mae pobl ifanc wedi profi niwed y tu allan i’r teulu ble nad oes llawer o allu gwarcheidiaeth
  • Magwraeth yn anghyson, ond datblygiad heb ei andwyo’n sylweddol
  • Rhieni ifanc iawn a dibrofiad, ble nad yw eu hanghenion sylfaenol yn cael eu diwallu (ar y cŷd â dangosyddion eraill)
  • Rhieni’n ymddangos i fod â diffyg cariad, ymgysylltiad neu fondio (yn cynnwys yn ystod beichiogrwydd)
  • Rhieni sydd â phrofiad o ‘ofal’
  • Diffyg ymateb i bryderon a godir yn ymwneud â’r plentyn
Dangosyddion Oren

Anghenion Datblygiadol

  • Gwaharddiadau tymor byr rheolaidd neu risg o waharddiad parhaol, triwantiaeth parhaus
  • Dim mynediad i lyfrau, tegannau na deunyddiau addysgiadol
  • Anghenion dysgu ychwanegol sydd angen cefnogaeth arbenigol i’w cynnal mewn lleoliad cymuned prif lif
  • Datblygiad corfforol ac emosiynol yn effeithio ar lesiant (yn hytrach na diogelwch)
  • Problemau iechyd cronig / cylchol
  • Methu apwyntiadau arferol / anarferol
  • Mân-anafiadau wedi digwydd sy’n gyson â thrais y tu mewn neu y tu allan i’r cartref
  • Gofalwyr gyda salwch cronig neu derfynol sy’n effeithio ar blentyn / person ifanc neu feichiogrwydd
  • O dan 18 oed ac yn feichiog ble nad oes rhwydwaith cefnogaeth wedi’i adnabod
  • Dod i sylw’r heddlu’n rheolaidd ond yr heddlu ddim yn gweithredu
  • Eu harestio am y tro cyntaf, mynychu’r biwro, mynediad i’r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf
  • Tystiolaeth o ddefnydd cyffuriau rheolaidd / aml gan riant neu blentyn sy’n effeithio ar lesiant eu plentyn
  • Tystiolaeth o rieni’n ymddieithrio o gefnogaeth a bod effaith negyddol ar lesiant y plentyn
  • Os oes gan berson ifanc neu riant / gofalwr anhawster iechyd meddwl sy’n effeithio ar eu gallu i berfformio tasgau o ddydd i ddydd, gan effeithio ar lesiant yn hytrach na diogelwch
  • Hunan-barch isel sylweddol (rhiant neu blentyn) sy’n effeithio ar lesiant y plentyn
  • Dioddefwr trosedd yn cynnwys gwahaniaethu sy’n effeithio ar lesiant y plentyn
  • Ysbeidiau ar goll, wedi eu hadrodd neu heb eu hadrodd i’r Heddlu, ble mae’r person ifanc neu blentyn wedi bod allan wedi 12pm neu dros nos
  • Defnydd sylweddau sy’n effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd a’u hiechyd
  • Ymddygiad anaddas / sy’n niweidiol yn rhywiol yn cael ei arddangos gan berson ifanc
  • Yn feichiog yn 16 oed neu’n iau, a does dim cefnogaeth deuluol ehangach ac/neu ddiffyg ymgysylltiad gyda’r gwasanaethau iechyd
  • Diffyg ymddygiad sy’n briodol i’w hoed a sgiliau byw’n annibynnol, sy’n debygol o effeithio ar ddatblygiad eu llesiant

Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol

  • Tystiolaeth bresennol a chylchol o drais yn y cartref
  • Risg o berthynas yn chwalu gyda rhiant / gofalwr a’r plentyn
  • Gofalwyr ifanc ble mae tystiolaeth o effaith ar eu llesiant
  • Plant ble mae’r naill riant neu’r llall yn y carchar, ble mae tystiolaeth o effaith ar eu llesiant
  • Plant sydd yn or-gyfarwydd ac heb ymlyniad i’r prif roddwr gofal
  • Plentyn yn arddangos ymddygiadau sy’n niwediol yn rhywiol o ran eu hunain neu eraill
  • Plentyn sy’n arddangos ymddygiadau cydlynol a rheoli sy’n achosi niwed i eraill
  • Gor-boblogaeth difrifol, llety dros dro, risg o ddigartrefedd, tlodi’n effeithio ar lesiant, pobl ifanc mewn risg o ddigartrefedd oherwydd chwalfa deuluol
  • Teulu angen gwasanaethau cefnogaeth o ganlyniad i eithrio cymdeithasol
  • Plentyn yn profi meithrin perthynas amhriodol i bwrpas ecsbloetiaeth ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • Plentyn yn rhan o un neu fwy o ddigwyddiadau o drais ieuenctid difrifol
  • Gofal corfforol neu oruchwyliaeth plentyn yn effeithio ar eu llesiant (yn hytrach na diogelwch)
  • Anabledd dysgu rhiant, camddefnydd sylweddau gan riant neu iechyd meddwl yn effeithio ar allu rhiant i ddiwallu anghenion y plentyn
  • Rhieni’n beio’r plentyn am niwed maent wedi ei brofi y tu allan i’r cartref teuluol
  • Camdrin yn y cartref, ansefydlogrwydd neu drais o fewn y cartref sy’n effeithio ar iechyd a datblygiad y plentyn / plentyn heb ei eni
  • Plentyn / heb ei eni yn byw mewn cymunedau gyda gwerthoedd niweidiol posibl megis Trais Seiliedig ar Anrhydedd, FGM ayyb, Cynhesrwydd a Sefydlogrwydd Emosiynol
  • Magwraeth anghyson yn effeithio ar lesiant y plentyn
  • Anallu rhieni i fod yn gariadus ac yn astud ac mae problemau ymlyniad (yn cynnwys yn ystod beichiogrwydd), Arweiniad ar Ffiniau ac Ysgogiad
  • Rhiant yn rhoi ffiniau neu ymatebion anghyson, sy’n effeithio ar lesiant y plentyn
Dangosyddion Coch

Anghenion Datblygiadol

  • Rhieni ddim yn cefnogi neu annog mynediad i unrhyw wasanaethau addysg neu iechyd sy’n arwain at amharu ar ddatblygiad corfforol ac emosiynol y plentyn / person ifanc
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) difrifol plentyn ble mae pryderon diogelu, effaith negyddol ar fywyd teuluol a risg o chwalfa deuluol
  • Anawsterau iechyd corfforol ac emosiynol a allai effeithio ar ddiogelwch y teulu
  • Amheuaeth o Anaf nad yw’n Ddamweiniol neu dim esboniad / esboniad anghyson am gleisio mewn babanod di-symudol
  • Camddefnydd cyffuriau / alcohol anhrefnus gan rieni gydag effaith gronig ar iechyd a llesiant plant, pobl ifanc a babanod sydd heb eu geni
  • Beichiogrwydd sy’n cael ei guddio neu ei wadu
  • Ymddygiad sy’n arwain tuag at risg difrifol iddynt eu hunain / plentyn ac eraill
  • Materion iechyd meddwl parhaol sy’n peryglu diogelwch y plentyn
  • Ecsbloetiaeth wedi ei adnabod yn cynnwys ‘CCE’, ‘CSE’, caethwasiaeth fodern, radicaleiddio a masnachu pobl
  • Rhiant yn eu harddegau dan 16 ble nad oes rhwydwaith cefnogaeth wedi ei adnabod
  • Ysbeidiau o fod ar goll sy’n achosi pryder fel yr amlinellir yn Arweiniad Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer diogelu plant sy’n mynd ar goll o’r cartrefl neu o ofal
  • Pobl ifanc y mae eu defnydd o sylweddau yn peryglu eu diogelwch a’u hiechyd
  • Datguddiad o niwed sylweddol gan blentyn neu berson ifanc sydd wedi ei achosi gan ac/neu wedi cymryd lle y tu allan i’r cartref teuluol
  • Tystiolaeth o gamdrin corfforol / camdrin rhywiol / camdrin emosiynol / camdrin ariannol / esgelustod yn cynnwys gorfodaeth o fewn y gymuned, y tu allan i’r cartref teuluol neu fwy nac un person
  • Pobl ifanc yn cael eu targedu i bwrpas ecsbloetiaeth mewn lleoliad neu o fewn grŵp
  • Un neu fwy arestiad yn ymwneud ag ecsbloetiaeth troseddol o fewn grŵp cyfoedion, cymuned, neu ddarpariaeth addysg, h.y. pobl ifanc yn cael eu canfod gyda swm sylweddol o gyffuriau
  • Un neu ddau fynediad i’r Ysbyty oherwydd camdrin cyfoedion ar gyfoedion neu drais ieuenctid, h.y. anaf yn ymwneud a chyllell
  • Patrwm o gamddefnydd sylweddau sy’n achosi pryder ac yn peryglu eu diogelwch
  • Un plentyn / person ifanc neu fwy o fewn grŵp cyfoedion yn cael eu meithrin ar gyfer perthynas amhriodol i mewn i eithafiaeth dreisgar
  • Un neu fwy person ifanc mewn cyd-destun sydd wedi bod yn ddioddefwr neu droseddwr trosedd rhywiol / ymosodiad rhywiol grŵp

Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol

  • Rhieni’n methu gofalu’n ddiogel am y plentyn
  • Wedi’u maethu’n breifat (gofal gan rhywun sydd ddim yn berthynas agos (nain / taid, brawd / chwaer, modryb / ewythr) am fwy na 28 diwrnod yn olynol)
  • Plant sydd angen gofalu amdanynt gan yr awdurdod lleol (nail ai drwy drefniant gwirfoddol neu drwy orchymyn cyfreithiol) yn dilyn asesiad gan weithiwr cymdeithasol
  • Ble mae pryderon ynghylch tebygolrwydd ymddygiad sy’n niweidiol yn ddiwylliannol (‘FGM’, trais ar sail anrhydedd)
  • Dim cartref sefydlog neu’n ddigartref
  • Teulu’n byw mewn tlodi eithafol sy’n effeithio’n andwyol ar ddiogelwch, iechyd a datblygiad
  • Amgylchedd yn y cartref sy’n rhoi plentyn neu berson ifanc mewn risg o niwed
  • Plentyn neu deulu angen eu hamddiffyn ar unwaith oherwydd bygythiad yn y gymuned / ecsbloetiaeth / aflonyddu / gwahaniaethu
  • Datgeliad o niwed sylweddol gan blentyn neu berson ifanc sydd wedi ei achosi gan ac / neu wedi cymryd lle y tu allan i’r cartref teuluol
  • Mae nifer cyfyngedig iawn neu dim oedolion positif diogel yn y cyd-destun
  • Anghenion sylfaenol y plentyn ddim yn cael eu diwallu
  • Rhieni’n ymwybodol ac yn ymddangos i fod yn cefnogi neu’n hwyluso niwed y tu allan i’r cartref
  • Rhieni ifanc iawn a dibrofiad ble nad yw eu hanghenion sylfaenol yn cael eu diwallu (ar y cŷd â dangosyddion eraill)
  • Plentyn yn cymryd rhan mewn / yn ddioddefwr gweithgaredd troseddol, sy’n eu rhoi hwy neu eraill (yn cynnwys babanod heb eu geni) mewn risg uchel o niwed
  • Camdrin yn y cartref ac/neu drais o fewn y teulu sy’n dechrau cael effaith andwyol sylweddol ar y plentyn / plentyn heb ei eni
  • Anghenion emosiynol plentyn ddim yn cael eu cydnabod neu dim ymateb iddynt
  • Anallu rhieni i fod yn gariadus neu’n astud ac mae problemau ymlyniad (yn cynnwys yn ystod beichiogrwydd)
  • Person o fewn y cartref wedi eu hadnabod fel bod yn peri risg i blant neu fabanod heb eu geni
  • Mae’r plentyn yn anniogel o ganlyniad i ddiffyg ffiniau ac/neu ysgogiad sy’n effeithio ar eu datblygiad
  • Pobl ifanc yn cael eu targedu dro ar ôl tro a’u hecsbloetio o fewn ardal benodol 
  • Pryderon difrifol am bobl ifanc yn agored i oedolion sy’n peri risg sylweddol o niwed yn yr ardal
  • Pryderon ynghylch trais ieuenctid difrifol mewn ardal neu o fewn amgylchedd ysgol 
  • Oedolion yn y gymuned yn weithredol yn ecsbloetio un neu fwy o bobl ifanc
  • Oedolion yn yr ardal yn cyflenwi sylweddau i blant neu bobl ifanc
  • Oedolion yn hwyluso neu’n cefnogi gweithgaredd niweidiol cyfoedion  – h.y. oedolyn yn caniatáu ecsbloetiaeth rhywiol person ifanc o fewn eu cartref

Template File: single.php