Level of Need – 3. Dangosfwrdd Lefel yr Angen
Mae nifer o wahanol ddyluniadau i’r dangosfwrdd hwn, gyda rhai ardaloedd â 5 adran ynddo, eraill gyda 6 adran o bosibl. Mae’n werth edrych ar eich Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a gweld beth sy’n cael ei ddefnyddio yn eich ardal chi, os ydych chi eisiau gwybodaeth mwy lleol. Mae’r egwyddorion sy’n sylfaen iddynt i gyd yr un fath, ble mae symud o ochr chwith y dangosfwrdd (y rhan werdd yn yr achos yma) i’r ochr dde (yr adran goch) sy’n golygu bod lefel yr angen wedi cynyddu i’r plentyn / oedolyn a’r teulu ac felly bydd angen mwy o gefnogaeth. Nid yw teuluoedd yn symud trwy pob adran yn eu tro nes eu bod yn dod i’r adran goch. Efallai y bydd teuluoedd yn mynd yn syth o’r gwyrdd i’r coch neu efallai y byddant yn mynd o’r gwyrdd i’r oren ac wedyn yn ôl i’r gwyrdd ac yn ôl i’r oren.
Gellir dyrannu’r adrannau oren a choch ymhellach i:
Oren – Cefnogaeth Cymorth Gynnar, Tîm o Amgylch y Teulu, a Gofal a Chefnogaeth
Coch – Plentyn neu oedolyn sy’n mewn risg a Phlant sy’n Derbyn Gofal
