Jane Ashman Logo

Physical Abuse – 8. Tynnu Lluniau

Trawsgrifiad Fideo

Rwy’n siwr bod rhai ohonoch wedi gweld hwn yn gwestiwn eithaf anodd i’w ateb, am eich bod yn y canol rhwng bod eisiau dweud, “Ydw, tynnu’r llun”, ac wedyn rhan ohonoch, mae’n debyg, yn dweud “Dwi ddim yn meddwl y dyliwn i”. Felly beth am edrych ar hyn. Efallai bod y rheswm eich bod wedi dweud ‘ydw’ yn ymwneud â’r derminoleg yn y cwestiwn hwnnw. Felly, roedd yn sôn am y dystiolaeth. Rydym yn gwybod nawr bod ymosodiad yn cynnwys slapio plentyn, felly gallai ymosodiad fod wedi digwydd a allai olygu bod hyn yn mynd i’r llys. Felly, byddai angen tystiolaeth, a gwyddom bod cleisiau’n diflannu.

Ond, byddai’r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer llys yn cael ei chasglu mewn beth rydym yn ei alw’n ‘archwiliad meddygol’. I hyn ddigwydd, beth mae angen i ni ei wneud fel staff ysgol yw i hysbysu’r PDD mor fuan â phosibl ynghylch unrhyw gleisio posibl yr ydym yn bryderus amdano, neu unrhyw farciau ar y corff. Unwaith rydym wedi hysbysu’r PDD, byddant hwy wedyn yn cysylltu â’r gwasanaethau plant fydd, yn eu tro, yn trafod gyda’r heddlu a gweithwyr proffesiynol iechyd ac yn gwneud penderfyniad ynghylch yr angen am archwiliad meddygol. Os oes ei angen, dyma ble gallai’r dystiolaeth gael ei chasglu, byddai ffotograffau, maint y cleisiau, ac yn y blaen, yn cael eu cymryd fel rhan o’r archwiliad meddygol.

Felly, mewn ysgol, nid ydym ei angen ar gyfer tystiolaeth. Fe fyddai angen i ni ei gofnodi yn yr ysgol ein bod ni wedi ei weld a dyma pam rydym yn defnyddio’r mapiau o’r corff sydd ar gael yn ‘CPOMS’ a ‘My Concern’. Os nad oes gennych system electronig, yna sicrhewch bod y rhain ar gael i’ch staff i gofnodi arnynt, a bod y meysydd ganddynt i’w llenwi i mewn megis dyddiad, amser, enw’r plentyn, ac unrhyw staff oedd yn bresennol. Byddai hyn, felly, yn osgoi’r aelod staff yn gorfod meddwl, “Pa wybodaeth arall mae angen i mi ei chynnwys?”, os ydyw gennych ar y ffurflen eisioes. Byddai’r archwiliad meddygol yn cynnwys hynny felly.

Y rhan arall yw fod y PDD wedi gofyn i chi, a dyma’r person sy’n gyfrifol am ddiogelu, felly mae’n debyg mai nhw sy’n gwybod orau. Os oes unrhyw un byth yn gofyn i chi i wneud rhywbeth yr ydych chi’n anghyfforddus am ei wneud, boed hynny’n PDD, swyddog heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, neu unrhyw un arall, yna mae gennych  yr hawl i ddweud, “Na, dwi ddim yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud yr hyn yr ydych wedi gofyn i mi ei wneud.”

Hefyd, wrth i ni feddwl am hyn, dylai pob ysgol, yn ôl Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, fod â Pholisi Ymddygiad Staff. Ac o fewn y polisi ymddygiad, dylai ddatgan nad yw y staff i fod i dynnu lluniau o blant.

Nawr, fel athrawes ymarfer corff, byddwn yn tynnu lluniau o blant am reswm dilys e.e. cystadleuaeth chwaraeon. Byddwch yn tynnu lluniau plant yn eich dosbarth yn cynnal gweithgaredd, efallai byddai drama ysgol ymlaen. Mae’r rhain i gyd yn resymau dilys a dylid tynnu’r lluniau ar gamera sydd gan yr ysgol, ar iPad ac yn y blaen.

Ni ddylech byth gymryd y rhain ar eich ffonau neu eich iPad personol. Os nad oes gennych chi, fel ddywedais i, fynediad i gamera neu ffôn ysgol, yna efallai y bydd angen rhoi trefniant yn ei le os byddech, fel oeddwn i fel athrawes ymarfer corff, yn tynnu lluniau’n barhaus. Ond byddai’n rhaid i honno fod yn broses oedd wedi ei gosod y byddech yn ei dilyn, e.e. eich bod yn cael tynnu llun ar eich ffôn, ond eich bod yn ei yrru yn syth i’ch e-bost gwaith neu’n ei uwchlwytho i’ch ardal Hwb. Byddech wedyn yn ei ddileu o’ch ffôn ac ni fyddai gennych wedyn, ac ni fyddai yn unman heblaw’r ardal honno yn yr ysgol ble byddai’n cael ei storio.

Felly, fel ddywedais i, os yw gweithiwr proffesiynol yn gofyn i chi, ac nad ydych yn teimlo’n gyfforddus, gallwch ddweud na. Y rhan arall, felly, pan rydych yn edrych ar y cleisio, ydi sut ydym yn gwybod bod angen archwiliad meddygol? Os ydym wedi sylwi ar y cleisio, yn gyntaf, efallai bod rheswm dilys amdano, efallai nad oes rheswm dilys.

Felly, mae angen i ni holi plant. Ac efallai eich bod chi’n meddwl, “Rwyf wedi cael gwybod i beidio gofyn yr un cwestiwn, byth”, ond fe gewch gwestiynu, ond mae’n rhaid iddynt fod yn gwestiynau agored, rhai sydd ddim yn eu harwain, a dim ond ar gyfer cael y wybodaeth yr ydych angen ei gwybod. Nid yr hyn yr hoffech ei wybod, ond yr hyn yr ydych angen ei wybod.

Yn y cyd-destun hwn, byddem angen gwybod sut roedd y clais wedi dechrau, i weithio allan os oes cam-drin wedi digwydd ai peidio. Byddwn, fel arfer, yn defnyddio’r dull cwestiynau “Dweud, Egluro, Disgrifio”, gyda’r math o gwestiynau megis “dweud wrthai sut cefais ti’r clais yna, eglura i mi sut cefais ti’r clais yna, disgrifia i mi.” Ac efallai y byddant yn dweud mai eu rhiant oedd wedi ei wneud. Ond nid yw’r wybodaeth rydym angen ei gwybod gennym. Nid oes gennym gyd-destun. Felly, eto, byddem yn dweud “Dweud wrthai beth oedd yn digwydd.”  

Mae’r plentyn wedyn yn disgrifio i chi sut roeddent yn rhedeg i’r ffordd ar ôl eu pêl a’u rhiant yn gafael ynddynt, i’w hatal rhag rhedeg allan i’r ffordd. Rhoddai hyn y cyd-destun i ni ac, o hyn, byddem yn gallu gweithio allan nad oedd yn gam-drin, beth ydoedd oedd rhiant yn amddiffyn eu plentyn oedd wedi arwain i gleisiau ar waelod y fraich ble roeddent wedi gafael ynddynt a’u tynnu yn ôl. Byddem yn dal i gofnodi’r cleisiau, i ddweud ein bod wedi eu nodi, ynghyd ag esboniad y plentyn.

Petai’r plentyn i roi’r esboniad i ni fyddai’n dweud eu bod yn y lolfa ac yn chwarae ar eu XBOX, ddim eisiau mynd i’r ystafell fwyta, ac mae rhaint wedi cerdded i mewn, wedi eu llusgo drwodd a’u gosod wrth y bwrdd. Byddem yn gwybod yn yr achos yma bod cam-drin corfforol wedi digwydd, ac yn sicr y byddai angen ei basio ymlaen ar unwaith i’r PDD.

Nawr, mae gan rhai ysgolion systemau ble rydych yn ei fwydo i mewn yn electronig. Byddai eraill, mewn achosion fel hyn, ble rydych angen ateb ar unwaith, yn gofyn i chi gysylltu â’r PDD. Edrychwch ar y gweithdrefnau yn eich ysgol a gwneud yn siwr eich bod yn ymwybodol o ba un maent yn gofyn i chi ei wneud.

Efallai y byddwch yn siarad gyda phlentyn gyda chleisiau ar eu crimogau, sy’n dweud. “O ia, o’n i’n chwarae pêl droed neithiwr”, a minnau’n meddwl, o ia dwi’n gwybod sut mae plant, mae nhw’n sicr yn gallu cael cleisiau yn y fan yna. Ond byddech yn dal i gofnodi’r cleisiau hyn a’r rhesymu, oherwydd mai beth rydym yn chwilio amdanynt wedyn yw tueddiadau. Ydi hyn yn digwydd bob wythnos mae’r plentyn yma’n mynd i ymarfer pêl droed? Ydi o’n rhywbeth sy’n digwydd yn ystod yr hyfforddiant? Hynny yw, eu bod yn chwarae heb goesarnau (‘shin-pads’)? Sydd yn mynd yn groes i ofynion Cymdeithas Pêl Droed Cymru. A yw plant eraill yn eu targedu yn y sesiwn bêl droed honno ac yn ei ddefnyddio fel cyfle i’w bwlio, i’w cicio, ac yn y blaen? Gallai rhywun fod yn ei ddefnyddio fel esgus i’w cam-drin yn gorfforol, yn gwybod eu bod yn mynd i ddefnyddio’r pêl droed fel stori i guddio hynny.

Felly, mae angen i ni gofnodi’r cleisiau hyn. Hefyd, beth fydd y PDD yn ei wneud yw i geisio gweithio allan os ydynt wedi cael yr un rhesymau gan y rhiant a’r plentyn? Yntau oes yna anghysondeb bychan yn yr hyn sydd wedi ei ddweud? Bydd hyn yn ein galluogi wedyn i ddod o’r hyd i’r ffordd orau i weithredu wrth symud ymlaen gyda’r plentyn yna.

Template File: single.php