Signs and Indicators – 6. Cwadrantau
Trawsgrifiad fideo
Yr ‘Arwyddion a’r Dangosyddion’, weithiau mae’n haws pan rydyn ni’n dechrau edrych arnynt, am ein bod yn gwybod am y rhai cyffredin, i edrych arnynt drwy’r dull hwn sy’n defnyddio’r cwadrantau ‘Di-eiriau’ i ‘Llafar’ ac ‘Anuniongyrchol’ i ‘Uniongyrchol’, oherwydd gall ein helpu i feddwl am arwyddion eraill hefyd.
‘Uniongyrchol / Llafar’ yw ble rydym yn sôn am blentyn neu oedolyn sy’n dod atom ac yn datgelu ac yn dweud wrthym beth sy’n digwydd iddynt. Gallem hefyd gael ‘Uniongyrchol / Llafar’ drwy’r Heddlu, oherwydd efallai eu bod nhw wedi gweld rhywbeth, efallai y byddent yn rhoi gwybodaeth i ni fel ysgol o Operation Encompass, ac adroddiad yn cyrraedd sy’n dweud wrthym beth sydd wedi digwydd. Efallai y bydd y gwasanaethau plant yn cysylltu â’r ysgol ac yn gadael i’r ysgol wybod beth sydd wedi bod yn digwydd i’r plentyn. Ardal arall mae angen i ni ei hystyried, efallai, fyddai ffrind i’r plentyn. Mae llawer o blant yn dweud wrthyf pan af i mewn i ysgolion a siarad gyda nhw, yw y byddai y rhan fwyaf ohonynt yn siarad gyda ffrind yn hytrach na dod yn uniongyrchol at aelod staff. Felly, eto, mae’n bwysig mewn ysgolion ein bod yn cadw’r sianel honno’n agored ac yn sicrhau bod ffrindiau’n gwybod y gallent ddod a siarad gyda’r staff ar ran unrhyw un.
Pan ddechreuwn ni edrych ar y ‘Llafar / Anuniongyrchol’ yma, er eu bod yn dweud pethau wrthym ni, nid ydynt yn dweud wrthym yn uniongyrchol eu bod wedi cael eu cam-drin, neu beth sy’n digwydd yn eu bywydau. Felly, yma, efallai eu bod yn dweud wrthym nad ydynt eisiau mynd i weithgaredd arferol ar y penwythnos erbyn hyn. Efallai eu bod yn mynd i aros gydag aelod o’r teulu a ddim eisiau mynd a gwneud hynny ddim mwy. Efallai nad ydynt eisiau mynd i ymarfer pêl-droed, i glwb ieuenctid, i nofio. Maent yn dweud, “Na, dwi’m yn ei fwynhau rwan.” Dywedwch chi, “Dweud pam wrthym” neu “Beth sy’n mynd ymlaen?” Ond mae’n rhywbeth sy’n gwneud i ni ystyried, oes yna rhywbeth yn mynd ymlaen? Gallai fod yn rhywbeth fel plentyn yn dod ac yn gofyn am bilsen atal genhedlu brys. Byddai hyn eto yn gwneud i ni ystyried beth sy’n digwydd yma. Beth mae’n ei wneud yw caniatáu i ni ofyn ychydig mwy o gwestiynau, a byddwn yn sôn am hynny mewn munud.
Ble mae gennym ‘Anuniongyrchol / Di-eirau, dyma’r rhai rydym yn fwy cyfarwydd â hwy. Felly, dyma’r rhai ble rydym yn sôn am bethau fel newid ymddygiad, newid dillad. Felly, os oeddent fel arfer yn dawel ac ychydig yn ymsodol erbyn hyn, os oeddent yn ymosodol ond yn dawel rwan. Os roeddent yn gwisgo dillad oedd wedi dod i lawr ar ôl frawd neu chwaer hŷn ond rwan, yn sydyn, mae ganddynt ddillad newydd sbon, yn gwario, yn eu hesgidiau chwaraeon newydd, byddai pethau felly’n achosi pryder. Gallent fod yn rhywun sy’n gwisgo dillad sy’n anaddas i’r tywydd. Felly, yn gwisgo dillad haf yn y gaeaf neu bob amser yn gwisgo llewys hir neu drowsus hir sy’n gorchuddio eu corff, hyd yn oed yng nghanol yr haf. Felly, eto, mae’n rhaid i ni gwestiynu, pam? A allent fod yn cyddio hunan-niwed neu’n cuddio cleisiau? Felly mae’r cwestiynau yma yno i ni eu gofyn i’r unigolyn.
Gallai pethau eraill fod yr iaith maent yn ei defnyddio. Rydym wedi arfer iddynt yn defnyddio math arbennig o iaith ac, yn sydyn, rydym yn eu clywed yn defnyddio termau sydd ddim yn gyfarwydd gan y plentyn yna. Eto, cwestiynu ble maent wedi ei glywed, ar pwy maent wedi bod yn gwrando? Eto, gallai fod yn rhywun maent yn chwarae gyda nhw yn yr amser chwarae. Grwpiau ffrindiau, ydyn nhw wedi newid? Os ydynt, pam? Pam nad ydynt gyda’r un ffrindiau rwan? Cysgu, blinder yn yr ysgol, ffonau – yn sydyn, maent ar eu ffôn drwy’r amser. Yn hwyr i wersi am eu bod yn gwneud neu ond angen mynd i wneud un peth, efallai eu bod yn mynd i osod bet. Efallai fod ganddynt gaethiwed i hapchwarae neu gamblo. Maent wedi blino’n dod i mewn. Ydyn nhw wedi bod i fyny drwy’r nos yn chwarae gemau a sgwrsio gyda ffrindiau ar y we? Felly, edrych ar bethau fel yna gyda’r ‘Di-eiriau / Anuniongyrchol’.
‘Di-eiriau / Uniongyrchol’, yw’r pethau y gallem eu hadnabod yng ngwaith y plentyn. Felly, rydym wedi derbyn darnau o waith wedi eu hysgrifennu o wersi Saesneg neu Gymraeg ble, er eich bod wedi dweud “gwnewch ddarn ffuglen”, mae ychydig yn rhy fanwl ac mae’n gwneud i chi feddwl a yw hyn yn rhywbeth mae’r plentyn yn ei brofi? Gallai fod yn eu gwaith celf, eu bod yn gallu dangos i ni yn eu celf beth sy’n digwydd. Efallai ei fod yn rhan o sesiwn therapydd chwarae neu bypedau. Efallai, yn ystod amser chwarae neu ginio, neu hyd yn oed mewn gwersi i’r plant bach, eu bod yn gwneud gweithrediadau rhywiol ble rydych yn meddwl eto, ym mhle maent wedi gweld y rhain?
Felly, eto, nid oes angen i ni eu dosbarthu i’r cwadrantau, ond rwyf yn meddwl ei fod yn ein helpu i ddod ychydig yn fwy ymwybodol ac yn edrych yn ehangach wrth edrych ar ‘arwyddion a dangosyddion’. Oherwydd, pan edrychwn ni ar gam-drin, cofiwch bod amrywiaeth o fathau, o gaethwasiaeth fodern, i ecsbloetiaeth rhywiol, i’r pump rydym wedi arfer gyda nhw – ariannol, corfforol, emosiynol, esgeulustod a rhywiol. Meddyliwch am unrhyw beth rydym yn meddwl sy’n wahanol. Un o’r ffyrdd gorau i wybod beth yw ‘normal’ plentyn neu ‘normal’ oedolyn yw i arsylwi, ein bod yn eu cyfarfod a’u cyfarch ar ddechrau’r wers, felly mae’n haws i adnabod unrhyw newidiadau.