Signs and Indicators – 4. Arwyddion a Dangosyddion
Tra mae cyrsiau hyfforddiant yn categoreiddio dangosyddion yn ôl y pum prif fath o gamdriniaeth, fel arfer, mae’n bwysig deall bod yr arwyddion hyn yn aml yn gorgyffwrdd rhwng categorïau. Nid dosbarthu (‘classify’) y math o gamdriniaeth yw eich prif gyfrifoldeb ond, yn hytrach, i adnabod ac i adrodd ar unrhyw ddangosyddion sy’n achosi pryder.
Pan rydych yn adnabod arwyddion sy’n achosi pryder, dylech adrodd arnynt i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD) trwy system adrodd y sefydliad – boed yn blatfform electronig megis My Concern, CPOMS, neu’n system ar bapur. Y rheswm am hyn yw y gallai’r arwyddion a’r dangosyddion ffitio o dan mwy nac un math o gam-drin.
Beth am archwilio dangosydd cyffredin: hylendid gwael. Ar yr olwg gyntaf, gallai hyn ymddangos yn weddol syml, ond mae nifer o achosion posibl. Ysgrifennwch restr o’r achosion posibl hyn.