Physical Abuse – 2. Definition
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n ei ddiffinio fel:
Cam-drin Plentyn yn Gorfforol – Ystyr cam-drin corfforol yw brifo plentyn neu berson ifanc yn fwriadol. Mae’n cynnwys: atal yn gorfforol, megis clymu wrth y gwely, cloi mewn ystafell, achosi llosgiadau, slapio, dyrnu, cicio, brathu neu dagu, trywanu neu saethu, gwrthod rhoi bwyd neu sylw meddygol, rhoi cyffuriau, atal rhag cysgu, achosi poen, siglo neu fwrw babanod, ffugio neu achosi salwch.
Cam-drin Oedolyn sy’n wynebu risg yn Gorfforol – Mae hyn yn cynnwys bwrw, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, atal yn afresymol, neu gosbau amhriodol.