Jane Ashman Logo

Safer Recruitment – 7. Gwiriadau Cyn-cyfweliad

Pan yn amserlennu’r broses recriwtio, sicrhewch bod amser diogonol wedi ei ddyrannu rhwng hysbysebu a phenodi ar gyfer:

  • Adolygiad trwyadl o’r ffurflenni cais
  • Gwirio a chadarnhau geirda
  • Casglu gwybodaeth ychwanegol os oes angen
  • Paratoi cwestiynau cyfweliad yn seiliedig ar y canfyddiadau

Gwiriadau Presenoldeb Ar-lein

Yn Lloegr, mae’r arweinad ‘Keeping Children Safe in Education’ yn datgan:

‘Fel rhan o’r broses o dynnu rhestr fer, dylai ysgolion a cholegau ystyried cynnal chwilio ar-lein fel rhan o’u diwydrwydd dyladwy ar yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer. Gallai hyn helpu i adnabod unrhyw ddigwyddiadau neu faterion sydd wedi digwydd, ac ar gael yn gyhoeddus ar-lein, y byddai’r ysgol neu’r coleg yn dymuno eu harchwilio gyda’r ymgeisydd yn y cyfweliad, o bosibl.’

Tra nad yw hyn yn orfodol yn ein arweiniad presennol ‘Keeping Learners Safe’ (KLS) ar hyn o bryd, efallai y byddai ysgolion yn ystyried gweithredu gwiriadau ar lein. Os yn gwneud hynny:

  • Hysbyswch yr unigolion sydd ar y rhestr fer y byddwch yn cynnal y gwiriadau hyn
  • Gofyn am bob enw defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol gan ymgeiswyr
  • Sicrhewch nad yw’r person sy’n cynnal y gwiriadau ar-lein ar y panel cyfweld
  • Dylai’r person sy’n cynnal y gwiriadau basio’r holl wybodaeth ymlaen i’r panel i’w hystyried

Template File: single.php