Safer Recruitment – 4. Recriwtio Mwy Diogel
Transcript fideo
Fel rydych chi newydd ei weld gyda ffigyrau’r Cyngor Gweithlu Addysg ar ffitrwydd i ymarfer, rydym yn parhau i fod â phobl sy’n defnyddio addysg fel cyfle i gael cysylltiad â phlant ac, o bosibl, i’w camdrin. Felly, mae’n rhaid i ni fod yn hollol glir pan rydym yn gwneud ein paratoadau o ran recriwtio mwy diogel. Mae’n rhaid i ni sicrhau mai’r neges allweddol yw, “Mae gennym ethos a diwylliant diogelu cryf yn ein hysgol.”
Felly, o gychwyn un y broses, mae angen i chi ddefnyddio hyn i atal pobl rhag ymgeisio. Mae Marcus Erooga, sy’n seicolegydd clinigol, yn gweithio gyda troseddwyr rhyw cyson, ac yn glir yn yr hyn mae’n ei ddweud a’i ysgrifennu, sef eu bod yn dal i ddefnyddio a chwilio am gyfleoedd er mwyn cael mynediad at bobl i’w camdrin. Maent yn chwilio am wendidau yn y system y gallent fanteisio arnynt. Felly, mae’n hynod bwysig, o ddechrau’r broses, ein bod yn gryf gyda’n neges diogelu.
Felly, mae hynny’n cynnwys pan rydym yn hysbysebu ar gyfer y swydd, ydyn ni’n cynnwys y polisi diogelu? Ydyn ni’n sicrhau eu bod yn darllen y polisi diogelu cyn ymgeisio am y swydd? Ac, o ymgeisio am y swydd, eu bod yn cytuno gyda phopeth sydd yn y polisi diogelu ac yn cytuno i gadw ato. Ydy hyn yn berthnasol i bob un aelod o staff ac ar gyfer pob swydd rydym yn hysbysebu ar ei chyfer? Beth am wirfoddolwyr? Ydyn ni’n mynd â nhw drwy broses sydd yr un mor drylwyr a staff eraill? Weithiau beth sy’n digwydd yw, efallai ein bod yn adnabod yr unigolyn, efallai ei fod mewn pentref bach, eu bod eisiau cefnogi, rydych yn eu hadnabod ar lefel bersonol. Ond, ar ddiwedd y dydd, nid yw pobl yn mynd o gwmpas yn gwisgo label.
Gallaf siarad o brofiad personol yn y fan yma, gan fy mod yn gwybod bod ffrind i mi, rhywun rwyf wedi eu hadnabod ers blwyddyn neu ddwy fel ffrind i ffrind, wedi ei gael yn euog o gynhyrchu delweddau rhywiol o blant. Doedd gennyf dim syniad. Oherwydd, fel ddywedais i, nid yw’r math o beth sy’n dod i fyny mewn sgwrs. Doedd dim gweithrediad yn awgrymu hynny i mi. Ni fyddwn wedi bod ag unrhyw bryderon am yr unigolyn cyn hynny.
Felly, fel ddywedais i, mae’n hynod bwysig ein bod yn gyrru’r negeseuon clir yna allan, oherwydd gallai’r person sy’n troseddu fod yn wrywaidd, yn fenywaidd, person ifanc, canol oed, yn hen berson, gall fod yn unrhyw un o gwbl. Felly, gwnewch yn siwr bod y prosesau’n berthnasol i bawb, a bod neges diogelu clir ar hynny.