Jane Ashman Logo

Safer Recruitment – 2. Camsyniadau

Camsyniadau cyffredinol yn ymwneud â’r term ‘recriwtio mwy diogel’

Wrth glywed y term ‘recriwtio mwy diogel’, mae llawer o bobl yn meddwl yn awtomatig ein bod yn sôn am wiriadau y gwasanaeth DBS. Ond dim ond rhan o’r broses yw’r rhain, oherwydd mae gwiriad DBS yn gyfyngedig i ddangos dau beth: unrhyw euogfarnau troseddol sydd wedi eu cofnodi cyn y dyddiad penodol hwnnw, ac – ar lefel uwch – unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu efallai nad yw’r unigolyn yn briodol i weithio gyda phobl sy’n agored i niwed. Ni allent ragweld ymddygiad yn y dyfodol na datgelu pryderon sydd heb eu hadrodd. Mae gwiriad ychwanegol o restr rhai sydd wedi eu gwahardd hefyd yn datgelu os yw unigolyn wedi eu gwahardd rhag gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed.

 “Nodwedd o’r dystiolaeth yw fod … staff … wedi cymryd yn ganiataol yn gyson, y ffaith fod Vahey (ac athrawon eraill) wedi bod yn destun proses fetio wrth recriwtio yn ei ardystio mewn rhyw ffordd fel person nad oedd yn – ac na allai fod – yn fygythiad i blant.”

Hugh Davies QC, 2014

Template File: single.php