Jane Ashman Logo

Allegations Against Staff – 10. Cam-drin a meithrin perthynas amhriodol sefydliadol

Mae cam-drin sefydliadol yn ffenomen sy’n cael ei dogfennu a’i deall yn gynyddol dda. Mae’n brin i ddod o hyd i achosion ble mae’r cam-drin wedi digwydd heb unrhyw feithrin perthynas amhriodol gan y troseddwr, ac (ond ddim bob tro), fel arfer, yr achos yw fod yr ymddygiad paratoadol wedi ei arsylwi a’i ystyried fel bod yn amheus gan eraill ar y pryd. Wrth gwrs, nid y plant yn unig sy’n cael eu meithrin ar gyfer perthynas amhriodol, ond hefyd, fel mae nifer o achosion wedi ei ddangos, yr oedolion a allai fod yn amddiffynnol a’r systemau o’u cwmpas.

Mae ymddygiadau meithrin perthynas amhriodol wedi cynnwys:

  • y defnydd uniongyrchol o awdurdod i droseddu
  • defnyddio buddion materol neu ymarferol i ddioddefwyr
  • darparu cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi eu hynysu
  • ffafrio plant penodol
  • a’r defnydd o alcohol, fideos neu ddelweddau rhywiol, ymhlith eraill.

Roedd y dull ar gyfer dechrau’r cam-drin yn cynnwys erydiad o’r ffiniau, datblygiad araf i gam-drin, y defnydd o ymddiriedaeth ac awdurdod, diwallu dymuniadau ac anghenion y plentyn (fel y trafodwyd yn y modiwl meithrin perthynas amhriodol).

Template File: single.php