Allegations Against Staff – 1. Meddwl yr annychmygol
Nid yw adroddiadau yn erbyn staff yn fater newydd. Ymchwiliodd yr Adroddiad Clywch yn y 1990au cynnar i bryderon ynghylch John Arwyn Owen, athro drama Ysgol Gyfun Rhydfelen, oedd yn dyddio’n ôl i 1980.
O ganlyniad i’r ymchwiliad yma, cyflwynwyd polisïau chwythu’r chwiban, ynghyd â hyfforddiant amddiffyn plant mandadol ar gyfer staff a llywodraethwyr.
Gellir dod o hyd i arweiniad presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer delio â honiadau’n erbyn staff yn y ddogfen “Diogelu Plant Mewn Addysg Ymdrin â Honiadau o Gam Drin yn Erbyn Athrawon a Staff Eraill”.
Cyflwyniad Fideo
Hoffwn allu dweud, oherwydd yr adolygiadau sydd wedi digwydd i mewn i weithwyr proffesiynol yn cam-drin plant neu oedolion, boed hynny’n Harold Shipman, Jimmy Saville, yr Adroddiad Clywch rydych wedi darllen amdanynt bod pethau wedi newid. Ond nid ydyw, yn anffodus. Hyd yn oed yr Adolygiad Arfer Plant i mewn i Neil Foden, y pennaeth yn Ysgol Friars ym Mangor.
Yn anffodus, mae’r un camgymeriadau’n digwydd drosodd a throsodd. Dyna pam mae’n rhaid i ni feddwl yr annychmygol bob amser. Mae’n rhaid i ni ddychmygu y gallai unrhyw un rydym yn gweithio gyda hwy fod yn rhywun allai gam-drin plant neu oedolion. Ac un o’r pethau rwy’n gofio sy’n aros yn fy meddwl oedd, mynychais sesiwn gyda Karen Leach. Roedd Karen Leach yn nofiwr Olympaidd i Iwerddon, ac un o’r pethau ddywedodd hi oedd mai’r peth gwaethaf allwn ni ei wneud yw labelu’r bobl hyn fel ‘angenfilod’, neu ddefnyddio ymadroddion eraill.
Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae’r bobl hyn yn bobl sy’n cael eu parchu o fewn ein cymdeithas, maent yn bobl sy’n cerdded yn ein cymuned, yr ydym yn eu gweld o ddydd i ddydd. Nid oes gan bobl labeli. Pe baem yn ceisio eu hadnabod, ni fyddem, a credwch chi fi rwy’n siarad o brofiad personol yn y fan yma. Ble, yn anffodus, cafodd gŵr un o’n ffrindiau gorau ei gyhuddo o gynhyrchu a dosbarthu delweddau rhywiol eglur o blant. A doedd gen i ddim syniad.
Felly, mae’n hynod, hynod bwysig ein bod yn cadw golwg am yr arwyddion, yn gweld beth allwn ni ei weld. Yn y modiwl ‘Recriwtio Mwy Diogel’, gwnaethom siarad am sut i geisio stopio pobl hyd yn oed cyn iddynt ddod i mewn i’ch hysgol.
Trwy wneud yn siŵr a dangos fod gennych yr ymagwedd ‘diogelu yw ein busnes’, ‘mae’n bwysig iawn yma’. Ond, mae’n rhaid i ni dderbyn, bydd pobl sydd yn cael drwy’r rhwyd yna, a byddant yn ein lleoliadau ysgol. Ac nid ydynt yn magu perthynas amhriodol gyda’r unigol yn unig, maent yn magu perthynas amhriodol gyda’r staff hefyd, iddynt gydymffurfio gyda nhw.
Rydym hyd yn oed wedi cael esiamplau mewn rhai o’r achosion rwyf wedi edrych arnynt yn Farrer & Co, y gwnawn ei drafod yn y man, ble ffurfiodd rhieni ddeiseb i gael yr aelod staff yna yn ôl. Oherwydd, yn anffodus, tra mae ymchwiliadau’n cymryd lle, ni all ysgolion wneud sylw, ni allent rannu manylion gyda’r rhieni, dweud beth sy’n mynd ymlaen, pam nad yw’r aelod staff yna yn yr ysgol.
Ac, fel dywedais i, yr achos hwnnw ble roedd y rhieni’n galw am i’r aelod staff yna gael dod yn ôl i’r ysgol, un oedd wedi cam-drin eu plant. Felly, os gwelwch yn dda, byddwch â’r agwedd yna, meddwl yr annychmygol. Gallai ddigwydd yma.