Jane Ashman Logo

Neglect – 12. Esgeulustod Oedolyn sydd mewn Risg

Esgeuluso Oedolyn sy’n wynebu Risg 

Mae’r diffiniad o oedolyn sy’n wynebu risg (Adran 126 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014) yn cynnwys unrhyw un dros 18 oed: 

  • Sydd yn profi neu’n wynebu risg o brofi camdriniaeth neu esgeulustod 
  • Sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth (boed yr awdurdod yn diwallu unrhyw o’r anghenion hynny ai peidio) 
  • Ac o ganlyniad i’r anghenion hynny, yn methu amddiffyn ei hun yn erbyn y gamdriniaeth neu’r esgeulustod neu’r risg ohono.  

Rydym, fel cymdeithas, yn disgwyl i oedolion allu diogelu eu hunain. Gall pobl sydd wedi profi esgeulustod cronnus (dros gyfnod o amser) fod yn dioddef / teimlo: 

  • Emosiynau negyddol, megis euogrwydd, ofn, dicter, cywilydd, unigedd a diffyg ymddiriedaeth 
  • Materion hunan-barch, megis teimlad o hunan-hyder a hunan-werth isel 
  • Materion hunan-reolaeth, a allai arwain i ymddygiadau peryglus neu fyrbwyll yn ogystal â defnydd alcohol a chyffuriau 
  • Anawsterau gweithredu gweithredol, megis nam ar y cof, anawsterau dysgu, ac anallu i ganolbwyntio   
  • Cyflyrau iechyd meddwl, megis iselder, gorbryder, anhwylderau ymlyniad, anhwylder straen wedi trawma (PTSD), defnydd sylweddau, a thueddiadau hunanladdol  
  • Anawsterau perthynas, yn aml oherwydd enciliad cymdeithasol neu ymddygiadau gwrth-gymdeithasol megis bwlio neu ymosodedd 
  • Ansawdd bywyd gwael, oherwydd perfformiad academaidd neu broffesiynol gwael, a llesiant meddyliol ac emosiynol gwael  

Byddai’r rhain wedyn yn effeithio ar allu oedolyn i adnabod y cam-drin ac i ofyn am help. Gallai oedolion hefyd ddioddef o hunan-esgeulustod.  

Mae hunan-esgeulustod yn gyflwr ymddygiadol ble mae unigolyn yn esgeuluso rhoi sylw i’w anghenion sylfaenol. Mae’r anghenion hyn yn cynnwys hylendid personol, dillad addas, bwydo neu dendio’n briodol i unrhyw gyflyrau meddygol sydd ganddynt. Gall hunan-esgeulustod hefyd gynnwys peidio edrych ar ôl eu amgylchedd byw neu gelcio anifeiliaid neu eitemau. Gall hunan-esgeulustod fynd ynghyd ag ymwrthedd i dderbyn gofal gan eraill.  

Mae’r GIG yn datgan “Mae dau prif fath o hunan-esgeulustod, sef bwriadol/gweithredol ble mae person yn gwneud penderfyniad ymwybodol i gymryd rhan. Gall hyn gynnwys peidio mynd at y meddyg pan maent yn gwybod nad ydynt yn dda a mynd am ddiwrnodau heb ymolchi eu hunain pan maent yn gwybod bod angen iddynt wneud hynny. Y math arall o hunan-esgeulustod yw’r anfwriadol/goddefol ble mae cyflyrau sy’n ymwneud â iechyd yn cyfrannu i’r risg o hunan-esgeulustod yn datblygu. Er enghraifft, gall person â dementia ddioddef o golli cof yn rheolaidd ac anghofio coginio bwyd iddynt eu hunain.”  

Template File: single.php