Neglect – 3. Diffiniadau ar gyfer Esgeulustod
Diffiniadau ar gyfer Esgeulustod
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n diffinio Esgeulustod yn gyffredinol fel:
Methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person).
Mae’r gweithdrefnau wedyn yn mynd i fwy o fanylder wrth edrych ar blant ac oedolion sy’n wynebu risg o esgeulustod.
Esgeuluso Plentyn
Esgeuluso plentyn yw’r methiant ar ran y gofalwr gwrywaidd neu fenywaidd neu fam feichiog i gwblhau’r tasgau magu plant sy’n ofynnol i sicrhau bod angenrheidion datblygol plentyn yn cael eu diwallu. Gall y methiant hwn fod yn gysylltiedig â materion magu plant megis camddefnydd neu gaethiwed i gyffuriau neu alcohol. Dylid gwahaniaethu rhwng esgeulustod a thlodi, gan fod esgeuluso’n digwydd er gwaethaf bod adnoddau rhesymol ar gael i alluogi’r rhiant neu‘r gofalwr/gofalwyr i gwblhau tasgau i safon ddigon uchel i ddarparu gofal priodol i’r plentyn. Tra mae esgeuluso’n debygol o fod yn barhaus gan achosi niwed cronnus, mae’n bosibl i ddigwyddiadau unigol ac esgeulustod episodig effeithio ar iechyd a datblygiad y plentyn.
Esgeuluso oedolyn sy’n wynebu risg
Mae hyn yn cynnwys y methiant i gael mynediad i ofal neu wasanaethau meddygol, esgeulustod emosiynol, esgeulustod yng ngwyneb cymryd risg, methiant i roi meddyginiaeth sydd wedi ei ragnodi, methiant i helpu gyda hylendid personol neu ddarpariaeth bwyd, llety neu ddillad.