Laws and Guidance – 7. Y Dair Brif Ddogfen Arweiniad
Fideo Trawsgrifiad
Nawr, fel rydych wedi gweld, mae Deddfau ac Arweiniad yn fater eithaf cymhleth, o ran bod llawer ohonyn nhw sy’n bwydo i mewn. Ond, fel soniwyd, y prif dri y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt yn eich rôl yw:
Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Byddwn yn sicr yn eich cynghori i lawrlwytho yr un yna i’ch ffonau os nad yw gennych yn barod, neu fod gennych ddolen sy’n golygu y gallwch gael mynediad iddo’n hawdd, boed hynny yn y gwaith neu adref. Bydd hyn yn mynd â chi drwyddo. Nid oes disgwyliadau eich bod yn ei ddarllen oherwydd mae’n fwy o beth i ‘bicio i mewn / picio allan’ yn ôl yr angen.
Wedyn mae Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. Mae disgwyliadau eich bod wedi darllen hwnnw o ran eich rolau a’ch cyfrifoldebau chi, ar gyfer pa bynnag rôl rydych yn ei chyflawni yn yr ysgol. Ac, eto, hwn yw’r un sy’n gosod allan beth mae’n rhaid i ni ei wneud, beth y dylem ni ei wneud, a’r arfer effeithiol o fewn addysg. Felly, yn sicr, os nad ydych wedi ei ddarllen, mae’n werth caffael y ddogfen. Mae ar gael yn electronig. Sicrhewch mae’r fersiwn rydych chi’n ei gael yw fersiwn 2022, oherwydd cafodd ei ddiweddaru yn 2022 i gynnwys y rhannau’n ymwneud â grym rhesymol, h.y. o ran slapio plant yng Nghymru. Cofiwch, mae gwahaniaethau’n parhau i fodoli rhwng Cymru a Lloegr o ran slapio plant. Yn bresennol, mae’n dal i gael ei ganiatáu yn Lloegr, ond ddim yng Nghymru. Ac eto, mae’n dibynnu ble mae’r plentyn pan mae’n digwydd. Felly os oes teuluoedd sydd, efallai, yn byw yn Lloegr, neu’r agos i’r ffin, ond eu bod yn derbyn eu haddysg yng Nghymru, os welwch chi riant yn slapio plentyn yng Nghymru, maent yn torri’r gyfraith yng Nghymru. Felly, eto, gwneud yn siwr ein bod yn hapus gyda hynny.
Ac wedyn, Polisi Diogelu’r Ysgol yw eich allwedd. Oherwydd, yn anffodus, gall rhai pethau fynd o’r chwith, ac rwy’n gwybod, rwyf wedi bod i mewn i leoliadau i ddelio â materion disgyblu cyn heddiw, a’r peth cyntaf y byddaf yn gofyn amdano bob tro yw am gopïau o’r polisïau. Byddai hynny, felly, yn cynnwys y Polisi Ymddygiad Staff, y Polisi Diogelu os yw’n fater diogelu, Cyfryngau Cymdeithasol os oes agweddau o hynny. A phan rydych yn arwyddo i ddweud eich bod yn derbyn y polisi, rydych yn derbyn popeth mae’n ei ddweud o’i fewn. Felly, eto, sicrhewch pan rydych chi’n cael y polisïau, eich bod yn eu darllen.
Peidiwch â gwneud beth roeddwn i’n arfer ei wneud a’u rhoi ar silff mewn ffeil o bolisïau, neu mewn ffolder ar eich cyfrifiadur heddiw, gan ddweud “Iawn, ‘dwi wedi derbyn y polisi yna.” Darllenwch o, os gwelwch yn dda, oherwydd mae yno i’ch amddiffyn chi hefyd. I sicrhau nad ydym yn gwneud pethau, fel sy’n gallu digwydd, o garedigrwydd ein calon, sydd yn mynd yn erbyn y polisïau. Felly, gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o’r rhain ac, fel y gwelsoch, mae diogelu yn ymbarél mor eang, mae’n cwmpasu cymaint o ardaloedd.
Gyda’r Deddfau a’r Arweiniad, fel y gwelsoch o’r rhestr, daeth llawer o bethau allan gyda’r oed priodi, a’r diweddariad yn 2023. Fel y dywedais, diddymiad y gosb amddiffyniad rhesymol. Felly, gyda’r rhain yn newid yn barhaus, mae’n rhaid i chi fod wedi eich diweddaru gyda hyn. Bydd eich polisi, gan ei fod yn dod o dempled gan yr awdurdod, yn gyfredol, ond eto y wybodaeth yna i chi eich hun, eich bod yn sicrhau eich bod wedi eich diweddaru ar unrhyw newidiadau.