Laws and Guidance – 5. Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Mewn Addysg, mae gennym Cadw Dysgwyr yn Ddiogel sy’n arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru. Dylai pob staff a gwirfoddolwr fod yn ymwybodol o’r arweiniad hwn ac wedi darllen yr adrannau perthnasol ar gyfer eu rôl hwy. O fewn yr arweiniad, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r termau:
- Rhaid – Defnyddir pan mae dyletswydd statudol i fodloni’r gofyniad
- Dylai – Defnyddir pan ddylid dilyn y cyngor a nodir oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud.
- Arfer Effeithiol – Defnyddir lle yr ystyrir y dylai’r lleoliad addysg ddilyn y cyngor, ond nad yw’n ofynnol i wneud hynny.
Mae’r arweiniad yn cwmpasu rolau a chyfrifoldebau ar gyfer awdurdodau lleol, llywodraethwyr, Penaethiaid, PDD a staff.
Y ddogfen olaf yw polisi Diogelu yr ysgol ei hun. Bydd y ddogfen hon yn egluro mewn manylder beth yw’r gweithdrefnau ar gyfer y sefydliad rydych yn gweithio ynddo. Mae’n rhaid ei ddiweddaru’n flynyddol a’i fabwysiadu gan y llywodraethwyr yn flynyddol. Dylid darparu copi i chi i’w ddarllen. Dylai’r ysgol ofyn hefyd i chi arwyddo i ddweud eich bod wedi derbyn copi o’r polisi ac eich bod wedi / yn mynd i’w ddarllen. Eich cyfrifoldeb chi yw i ddarllen y polisi, gan ei fod yn dweud wrthych beth sy’n rhaid i chwi ei wneud. Os, wrth ddarllen y polisi, eich bod yn anghytuno gydag unrhyw bwyntiau, yna mae’n rhaid i chi godi hyn gyda’r PDD.