Jane Ashman Logo

Laws and Guidance – 4. Deddfau

I ddechrau, ar draws Cymru a Lloegr, mae Deddf Plant 1989. Mae diweddariadau ac ychwanegiadau wedi bod i’r Ddeddf yma. Mae hyn yn gyfraith, yn Adran 1, ble mae’n datgan bod llesiant y plentyn o’r pwys mwyaf. Credaf fod hyn yn rhywbeth rydym yn ei wneud yn dda mewn Addysg trwy sicrhau ein bod yn hyfforddi ein staff ac yn ailadrodd y neges y dylid adrodd ar unrhyw bryderon i’r Person Dynodedig Diogelu (PDD). Mae Adran 3 yn edrych ar Gyfrifoldeb Rhieni a phwy sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol hwn ac felly, yn ei dro, pwy sydd â’r hawl i arwyddo’r gwaith papur angenrheidiol i’r ysgol am bethau megis ymweliadau ysgol, tynnu ffotograffau, sylw meddygol, a.y.y.b. Mae Adran 31 a 38 yn ymwneud  â phlant mewn gofal o dan  orchymyn gofal llawn ac interim. (Byddwn yn edrych ar hyn mewn mwy o ddyfnder yn y modiwl Plant Mewn Gofal). Adran 47 yw ble gwneir ymholiadau i ddarganfod os yw plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol ac angen ymyrraeth i ddiogelu ac i hyrwyddo eu llesiant. Y gwasanaethau cymdeithasol sydd â’r cyfrifoldeb arweiniol am yr ymholiadau. Mae gan ymarferwyr eraill, megis yr heddlu, iechyd, addysg, a phartneriaid perthnasol eraill ddyletswydd i gydweithredu ac i helpu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal eu hymholiadau. 

Yn 2014 cyhoeddodd Cymru eu deddfau cyntaf eu hunain yn ymwneud â diogelu, oedd yn weithredol o fis Ebrill 2016. Dyma Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r ddeddf yma wedi disodli rhannau o Ddeddf Plant (1989). Esiamplau o hyn fyddai’r ddyletswydd i adrodd ar unrhyw bryderon yn ymwneud â phlentyn sy’n wynebu risg (Adran 130) ac hefyd oedolyn sy’n wynebu risg (Adran 128). Nid yw’n ddewis os ydym i adrodd ar bryderon neu beidio, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar bawb sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y byd addysg. Mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryder neu deimlad (‘niggle’) sydd gennym ynghylch llesiant plentyn neu oedolyn. Mae hyn yn helpu’r PDD i gasglu darnau’r jig-so i gael gwell darlun cyffredinol os ydynt yn wynebu risg neu’n profi cam-drin, ac os yw’r plentyn, oedolyn, neu deulu angen cefnogaeth.  

Y ddwy yna yw’r deddfau mae’n rhaid i ni gadw iddynt pan yn gweithio o fewn addysg. Cyhoeddwyd Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn 2019 ac maent ar gael ar-lein, naill ai drwy’r wefan neu fel ap y gellir ei lawrlwytho. Mae’r gweithdrefnau hyn yn ein helpu i ddeall ac i gymhwyso’r deddfau mewn fformat sy’n haws i’w ddeall. Ar y brif dudalen gartref fe ddewch o hyd i’r penawdau isod: 

  • Cyflwyniad 
  • Plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o niwed 
  • Oedolion sy’n wynebu risg 
  • Byrddau Diogelu Rhanbarthol 
  • Geirfa 
  • Adnoddau 
  • Amdan yr ap yma 

O dan y pennawd ‘Plant a phobl ifanc sy’n wynebu perygl o niwed’, fe ddewch o hyd i’r ‘Canllaw ar gyfer Cymru Cyfan’ sydd yn edrych mewn mwy o fanylder ar faterion diogelu penodol megis plant a allai gael eu masnachu, Camfanteisio Troseddol ar Blant (CTaB), plant sy’n mynd ar goll o’r cartref neu o ofal. Mae’n werth darllen y canllawiau hyn. Byddaf yn cyfeirio atynt yn y modiwlau perthnasol. 

Mae’r gweithdrefnau hyn ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sector statudol, y trydydd sector (gwirfoddol) a’r sector breifat mewn iechyd, addysg, heddlu, cyfiawnder, a gwasanaethau eraill. Nid oes fersiwn argraffadwy gan fod diogelu’n faes sy’n newid yn barhaus a byddai angen eu diweddaru unwaith maent wedi cael eu hargraffu. O ganlyniad, byddant ar gael ar-lein yn unig. Bydd y gweithdrefnau’n mynd â chi yr holl ffordd drwodd, o fod â phryder am blentyn neu oedolyn, a thrwy’r gweithio amlasiantaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael. 

Template File: single.php