Grooming – 8. Trosolwg o’r Saith Cam
Fideo Trawsgrifiad
Wrth edrych ar y 7 cam o feithrin perthynas amhriodol, mae rhai o’r rhain y byddwch wedi meddwl amdanynt o bosibl pan oeddech chi’n edrych ar eich diffiniad, felly wrth i ni fynd drwyddynt, rwy’n siwr y byddwch yn adnabod rhai o’r rhain. Felly, y cyntaf yr ydym yn edrych arno yw targedu. Ac rwy’n gwybod ei fod yn dweud ‘person ifanc’ ar y sgrîn, ond gall fod yn unrhyw berson ifanc, unrhyw blentyn, unrhyw oedolyn. Ac rwy’n meddwl mai’r agwedd yma sydd wir angen i ni ei ystyried, y gall ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg yn eu bywyd.
Meddyliwch yn ôl i pan oeddech chi’n edrych ar fod yn agored i ddylanwadau, gall unrhyw un syrthio i mewn i’r categori hwnnw, ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Felly rydym yn edrych ar yr angen neu yr hyn mae’r unigolyn yna eisiau. Gallai esiampl fod eu bod angen arian i dalu’r biliau, er mwyn talu’r rhent i beidio gael eu troi allan o’u cartref, neu i brynu bwyd. Felly, os oes agwedd yna, ble mae pobl yn dod yn ymwybodol ohono, h.y. mae’r camdrinwyr yn dod yn ymwybodol ohono, byddent wedyn yn edrych ar allu defnyddio hynny.
Gyda’r ‘eisiau’, yna gall hyn amrywio. I rai plant, mae yna esiampl, sef Megan Hilton. Pan roedd hi’n 14 oed fe symudodd i ysgol arall am ei bod yn cael ei bwlio, aeth i ysgol newydd ac roedd hi wir eisiau ffitio i mewn a pheidio cael ei bwlio, i gael ei derbyn gan y disgyblion eraill. Ac, yn araf, beth ddigwyddodd oedd fod rhywun yn cysylltu â hi yr oedd hi’n ei gredu oedd yn fachgen o fewn ei grŵp blwyddyn hi, oedd yn cysylltu â hi ar ei ffôn, a dros amser cafodd ei meithrin ar gyfer perthynas amhriodol ac, yn y diwedd, gyrrodd luniau noeth. Ond nid dyma oedd ei dewis cychwynnol, mae’n rhaid i chi gofio bod y meithrin perthynas amhriodol wedi gweithio ar yr unigolyn yma ar hyd y ffordd.
Efallai bod gennych eisiau i gyrraedd lefel nesaf ar gêm, a does dim byd gwaeth i rai pobl os nad ydynt yn gallu symud ymlaen ac rydych chi’n chwilio am y dull twyllo bach yna, darganfod sut y gallwch oroesi’r her yna sydd o’ch blaen. Neu eich bod angen dod o hyd i bethau penodol neu agor blychau arian. Beth bynnag ydyw, byddwch yn chwilio am hwnnw, ac os yw rhywun yn darganfod eu bod yn gallu defnyddio hynny i roi pwysau o ran y model meithrin perthynas amhriodol. Felly meddyliwch yn ôl i’r bod yn agored i ddylanwad.
Nawr, pan rwy’n cynnal y cwrs hwn wyneb yn wyneb, beth mae rhai o’r cyfranogwyr yn ei ddweud yw, pan maent yn edrych ar hyn, yw i feddwl amdano bron fel stelcio. A byddaf yn dweud yndi, yndi mae o, oherwydd mae’n rhaid iddynt wybod popeth am eich bywyd, mae’n rhaid iddynt wybod faint o’r gloch yw hi. Oherwydd y cam nesaf, ble maent yn edrych i drefnu i gyfarfod ac i gysylltu â chi, maent angen gwybod beth yw patrwm eich diwrnod, maent angen gwybod eich bod chi am fod yno. Byddant yn eich tracio, yn darganfod, ydych, rydych chi ar-lein rhwng 4.30 a 5.30 fel arfer, ac felly byddant yn gwybod y gallent fynd i mewn i’r gêm rydych chi’n chwarae ynddi, gyda’u ‘avatar’, croen, neu beth bynnag. Wedyn, dechrau cyfarfod, gweithio gyda chi, eich edmygu yn y gêm, negeseuon trwy ddefnyddio Chatbox ac yn y blaen. Os ydych chi’n dal bws neu drên i’r gwaith, eto byddant yn gwybod faint o’r gloch mae’r rhain, pa fws ydyw. Ac rydym yn greaduriaid o arferiad, tueddwn i eistedd mewn mannau tebyg. Os yw’n fws dau lawr rydych yn hoffi bod ar y llawr gwaelod neu’r llawr uchaf, o ran ble rydych yn eistedd. Efallai eich bod yn mynd am fwyd i fynd bob nos Wener. I ble rydych chi’n mynd i gasglu’r bwyd hwnnw? I ble ydych chi’n mynd i dreulio amser gyda ffrindiau?
Felly gyda’r holl agweddau hyn, byddant yn eu gwybod er mwyn cysylltu. A byddant yn sicrhau bod y cysylltiad hwnnw’n edrych mor naturiol â phosibl. Felly byddant yn dweud, “O, do, welais i ti yn y gêm ddoe. Roeddwn i’n hoffi’r ffordd wnes di ABC. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n grêt.” Ac eto, dechrau eich paratoi, neu ddweud, “Do, wnes i sylwi arnat ti, mae’n edrych fel dy fod yn dal yr un bws â fi bob tro. Wyt ti’n mynd i’r gwaith? Wyt ti’n mynd i’r coleg? Ysgol?” Gwybod beth sy’n digwydd. Felly dechreuwch feddwl, gyda’r cysylltiad yna. Ac unwaith maent wedi gwneud y cysylltiad cychwynnol, yna maent yn edrych i gadw’r cysylltiad hwnnw, i’w gynnal. Felly dyna gwpwl o esiamplau yn y fan yna, ac eto bydd y dull maent yn ei ddefnyddio’n dibynnu ar bwy maent yn ei dargedu. Rhifau ffôn, fwy gydag oedolion, ac e-byst yn yr un modd. Ond eto, byddant yn gwybod ble rydych chi. Byddant yn gwneud y trefniant yna, yn dweud, “Reit, welai chdi nos yfory yn y gêm, fedra i ddim disgwyl, os wnawn ni bartneru gallwn wneud hyn ac, efallai, dod dros yr her.” Neu, “Welai chdi fory”, neu “Wyt ti ffansi cyfarfod neu fynd i rhywle?” Felly bydd hyn i gyd yno, ceisio edrych arno.
Beth sy’n digwydd wedyn yw fod ganddynt yr ymddygiadau cadarnhaol canfyddedig yma. A’r rhain, mae’n debyg, oedd beth roeddech chi’n eu rhestru pan roeddech chi’n meddwl ynghylch meithrin perthynas amhriodol a’r diffiniad. Felly, dyma yw ble maent yn ceisio gwneud iddynt eu hunain ymddangos fel pobl gwirioneddol, y gellir ymddiried ynddynt, person diogel, rhywun gallwch ddibynnu arnynt. Felly, boed hynny, fel sydd i’w weld ar y sgrîn, yn lifft adref am ddim, benthyg arian i chi, a “paid â phoeni am ei dalu’n ôl, pryd bynnag mae’r arian gen ti.” Efallai y byddai rhai’n dweud, “O paid a phoeni, wnai dalu am y bwyd i fynd yna i ti, does dim arna ti ddim i mi.” Ond, yn amlwg, does dim byd am ddim mewn bywyd, yn anffodus, a byddant rhywdro yn gofyn am rhywbeth yn ei ôl am yr arian hwnnw.
O ran pethau eraill yn ymwneud â’r ymddygiadau cadarnhaol canfyddedig, os ewch chi’n ôl i esiampl Paul Stewart, iddo fo y pâr newydd o esgidiau oedd o, am ei fod wastad wedi cael hen rai ar ôl ei frodyr hŷn. I’w deulu, dechreuodd y meithrin perthynas amhriodol gyda’r teledu a brynwyd ar eu cyfer. Hefyd, pethau eraill iddo fo oedd sesiynau pêl droed un i un, gwneud yn siwr ei fod yn chwarae yn y gemau ble roedd sgowtiaid yn bresennol o’r clybiau mawr. Oherwydd, eto, os na fyddent, os na fyddai wedi chwarae ni fyddai wedi cael ei weld, ac yn y blaen. Felly roedd yr holl agweddau hynny, rhoi lifft adref iddo, sicrhau ei fod yn cyrraedd adref yn ddiogel, y rhain i gyd.
Roedd y pedwar cyntaf yna, felly, i gyd yn ymwneud â gosod y sylfaen a gwneud i’w hunain ymddangos fel person diogel y gellid ymddiried ynddynt.
A’r peth sy’n anodd iawn yw fod rhai o’r pethau hynny, yn enwedig yr ymddygiadau cadarnhaol canfyddedig, yn bethau rydym ni’n eu gwneud yn ein bywyd pob dydd. Rydym yn gwybod i ble maent wedi bod, efallai eu bod wedi bod ar daith dros y penwythnos, neu wedi bod yn gwylio gêm bêl droed, pwy yw eu hoff dîm. Gwyddom amdanynt am ei fod yn dangos ein bod yn ofalgar ac wedyn gall disgyblion deimlo eu bod yn gallu ymddiried ynom fwy. Y gwahaniaeth yw ein bod ni, yn amlwg, yn gwneud hyn am ddeilliannau gwahanol i’r rhai y byddai’r camdriniwr yn edrych arnynt. Mae pobl yn gofyn pa mor hir fyddai’r broses honno’n ei gymryd, ac mae’r holl beth yn ddibynnol ar y nod terfynol. Os yw’r nod terfynol yn fwy o nod hir-dymor e.e. ecsbloetiaeth rhywiol unigolyn, eu masnachu, yna gallai fod yn broses hirach. Oherwydd mae’n rhaid adeiladu’r ymddiriedaeth, oherwydd fod y berthynas wedi bod yn mynd ymlaen ers peth amser.
Ond, os yw’n rhywbeth fel ceisio cael llun gan rhywun nad ydynt wedi eu cyfarfod o’r blaen, heb unrhyw gysylltiad â nhw o gwbl, yna, yn ôl Prifysgol Abertawe, yr amser cyflymaf yr ydych yn edrych arno yw tua 20 munud. O bosibl, erbyn hyn, ychydig yn llai, oherwydd fod yr astudiaeth gryn amser yn ôl. Felly, pan rydym yn edrych, gall amrywio, ond mae hyn yn ymwneud â pharatoi a gosod y sylfaeni.
Nawr, mae’r pumed cam yn ymwneud â faint o bŵer a rheolaeth sydd gen i drosoch chi, oherwydd dyma’n union yw meithrin perthynas amhriodol. Maent eisiau rheoli i ble rydych chi’n mynd, beth rydych chi’n ei wneud, beth rydych chi’n ei roi iddynt, ac yn y blaen. Felly, yma, iddynt allu gyrru neges testun, maent yn mynd i ofyn am ymddygiadau negyddol, fel y gwelwch o’r esiamplau yma, gofyn iddynt wneud pethau anniogel. Wnawn nhw wneud beth maent yn gofyn iddynt ei wneud? Wnawn nhw gymryd cyffuriau? Wnawn nhw yfed alcohol? Wnawn nhw fynd allan i falu ffenestri? Wnawn nhw fynd a chrafu car gydag allwedd? Wnawn nhw fynd allan a dwyn o siopau? Hyd yn oed rhywbeth syml fel chwarae triwant o’r ysgol, a fyddent yn gwneud hynny? Y peth pwysig yma yw i geisio barnu ymateb rhywun os, yn enwedig plentyn iau, y byddech yn gofyn iddynt wylio pornograffiaeth, a fyddent yn gwneud hynny ai peidio, ac edrych ar eu hymatebion. Os fyddai plentyn yn dweud na, neu oedolyn yn dweud na ar y pwynt yma, mae’n debyg y byddai’r camdriniwr yn gwneud jôc o’r peth, chwerthin a dweud, “O na, oeddat ti’n meddwl fy mod i am i ti wneud hynny go iawn? Fuaswn i byth yn gofyn i ti wneud hynny! Tynnu dy goes di o’n i.” Byddai wedyn yn mynd yn ôl i Gam 4 ac yn treulio mwy o amser yng Ngham 4 ac yn datblygu’r berthynas yma.
Ond, os byddai’r person ifanc / oedolyn yn gwneud yr ymddygiad negyddol, mae hyn yn rhoi rhywbeth i’r camdriniwr i’w ddefnyddio i’w camddefnyddio a’u bygwth. Felly, mae’n achos o, “Os nad wyt ti’n gyrru mwy o luniau i mi, rwy’n mynd i ddangos y lluniau wnes di eu rhannu i dy gysylltiadau eraill, ac rwyf am eu rhoi nhw ar y we.” “Os wnei di ddim dwyn mwy o bethau, yna rwyf am ddweud wrth yr heddlu, dy rieni, ac mae gennym ffilm ohonat ti’n dwyn yn y lle cyntaf, neu gwnawn ddweud wrth yr heddlu dy fod yn malu ffenestri, crafu ceir.”
Felly mae’r weithred gychwynnol honno o fewn yr ymddygiad negyddol yn rhoi’r sylfaen ar gyfer y bygythiadau, a phopeth arall yn adeiladu ar ben hynny. Ac mae’r unigolyn yn teimlo na allent ddweud wrth unrhyw un. Dyna’r prif ran, a beth sy’n digwydd wedyn yw ecsbloetiaeth o’r person hwnnw/honno. Felly, eu defnyddio ar gyfer unrhyw beth y dymunent. Felly, boed yn ecsbloetiaeth troseddol, yn ecsbloetiaeth rhywiol, boed o fewn perthynas ddomestig, beth bynnag y gallent ei ddefnyddio ar ei gyfer.
Mewn fersiwn byrrach, ac ychydig yn haws i’w gofio, maent yn sôn am ‘dargedu’ rhywun sef eich 1-4, eich ‘profi’ yw eich rhif 5, ac wedyn eich ‘dal’ yw eich rhif 6 a 7. Felly, ‘targedu’, ‘profi’ a ‘dal’, sydd ychydig yn haws i ni i’w gofio.