Grooming – 6. Adlewyrchu ar fod yn agored
Gall unrhyw un, yn oedolion a phlant, gael eu meithrin ar gyfer perthynas amhriodol ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Oherwydd newid mewn amgylchiadau, gall unigolyn ddod yn fwy agored i gael ei ddylanwadu.
Dyma dabl gydag ychydig o bwyntiau y byddwch wedi meddwl amdanynt o bosibl.
| Wedi eu hanafu | Cael eu bwlio | Anniogel ac Ansicr | Wedi eu bychanu | Ddim yn ymwybodol o’u gwerth |
| Esgeuluso | Cam-drin | Wedi torri | Dim cyfeiriad | Cymhleth hunaniaeth |
| Symud yn wastadol | Anghenion Dysgu Ychwanegol | Plant mewn gofal | Chwilio am gariad | Parch |
| Trawma | Camddefnydd sylweddau | Hudoliaeth a normaleiddio | Mynd ar ôl arian | Grym |
| Unigrwydd | Problemau ariannol | Salwch Iechyd Meddwl | Eisiau perthyn | Teimlo’n israddol |
| Modelau rôl negyddol | Ddim yn teimlo’u bod yn cael eu derbyn gan gyfoedion | Eisiau mynd i’r lefel nesaf ar gêm | ANGEN | EISIAU |
Fe sylweddolwch nad yw’r term ‘agored i niwed’ yn ymddangos, ond eto mae’n derm rwy’n ei glywed yn aml ar gyrsiau. Gall y term ‘agored i niwed’ fod yn derm sy’n beio’r dioddefwr, h.y. digwyddodd iddynt hwy am eu bod yn agored i niwed. Beth mae hefyd yn ei wneud yw i’n gwneud yn unllygeidiog, a gwneud i ni feddwl bod meithrin perthynas amhriodol a chamdriniaeth ond yn digwydd i fath arbennig o berson. Fel y crybwyllwyd, gall meithrin perthynas amhriodol ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg yn eu bywyd.
Mae’r Swyddfa Gartref, yn eu harweiniad ‘Prevent’ wedi cyhoeddi’r canlynol i egluro’r gwahaniaeth:
Agored i ddylanwadau ac agored i niwed
Ni fydd pob person sy’n agored i’w radicaleiddio yn ‘berson sy’n agored i niwed’.
Gall person fod yn agored i niwed os ydynt angen gofal, cefnogaeth neu amddiffyn arbennig oherwydd oedran, anabledd, y perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.
Mae amgylchiadau, anghenion a ffactorau sylfaenol eraill a all wneud person yn agored i’w radicaleiddio sydd ddim yn gyfystyr â bod yn ‘agored i niwed’.